Mae ansicrwydd yn parhau ynghylch beth yn union a gafodd ei gytuno rhwng y Theresa May ac Aelodau Seneddol o’i phlaid a gafodd eu perswadio i gefnogi’r Llywodraeth ddoe.
Roedd carfan o Aelodau Seneddol Torïaidd sy’n gwrthwynebu Brexit wedi bygwth pleidleisio yn erbyn y Llywodraeth ar welliant a fyddai’n mynnu pleidlais ystyrlon yn y Senedd cyn cymeradwyo cytundeb â’r Undeb Ewropeaidd.
Yn y diwedd, llwyddodd y Llywodraeth i ennill y bleidlais allweddol o 324 i 298 ar ôl addewidion gan Theresa May am welliannau.
Yn ddiweddarach, awgrymodd y Cyfreithiwr Cyffredinol Robert Buckland nad oes unrhyw gonsesiynau gwirioneddol wedi eu gwneud.
Ar ôl cael ei berswadio i gefnogi’r Llywodraeth, fodd bynnag, rhybuddiodd un o’r darpar-wrthryfelwyr Dominic Greave ei fod yn disgwyl i Theresa May gadw at ei gair.
“Os na fydd hyn yn digwydd, mae’n amlwg nad hyn fydd diwedd y mater,” meddai. “All yr un llywodraeth oroesi os yw hi’n anwybyddu’r Senedd.”
Mae’n ymddangos fwyfwy mai llwyddo i ohirio gwrthryfel o fewn ei phlaid a wnaeth y Prif Weinidog ddoe yn hytrach na datrys anghydfod sy’n parhau.