Mae un o weinidogion llywodraeth Theresa May wedi ymddiswyddo jyst cyn cyfres o bleidleisiau ar Brexit yn Nhy’r Cyffredin.
Mae Phillip Lee wedi rhoi’r gorau i’w swydd yn yr Adran Gyfiawnder gan ddweud, “Os ydi Brexit yn werth ei wneud, yna mae’n werth ei wneud yn dda”. Mae hefyd wedi datgan ei bod yn “anghyfrifol” i’r llywodraeth ddal ati fel ag y mae pethau ar hyn o bryd.
Fe ddaw ei gyhoeddiad annisgwyl yn dilyn rhybudd i wrthryfelwyr oddi fewn i’r blaid Geidwadol nad ydi hi’n bosib dad-wneud canlyniad y refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd.