Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May, wedi galw ar y gwrthryfelwyr o fewn ei phlaid  i gefnogi’r Mesur Brexit, gan fynnu bod gan y Deyrnas Unedig “ddyfodol llewyrchus” ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Daw’r sylwadau hyn cyn y bydd y Mesur Ymadael yn dychwelyd i Dŷ’r Cyffredin yr wythnos nesa’, gyda chyfle i ASau bleidleisio ar yr Undeb Tollau, y Farchnad Rydd a’r cytundeb Brexit terfynol.

Mae Theresa May ar hyn o bryd yng Nghanada ar gyfer uwchgynhadledd y G7, ond cyn iddi adael fe gafodd cyfarfod ei gynnal rhyngddi ac aelod o’r Blaid Geidwadol sydd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd hi wedi cynnal y cyfarfod er mwyn ceisio osgoi gwrthryfel o fewn ei phlaid, ac wrth deithio i Ganada, fe ddywedodd wrth ohebwyr fod angen i bawb weld “pwysigrwydd” yr angen i gefnogi’r Mesur Ymadael.

‘Rhaid cefnogi’r Mesur Ymadael’

“Dw i’n gobeithio y bydd pawb, pan fyddan nhw’n dod i bleidleisio’r wythnos nesaf, yn gweld pwysigrwydd yr angen i gael y Mesur Ymadael ar y llyfr deddfwriaeth, oherwydd y Mesur Ymadael hwn fydd yn sicrhau ein bod ni’n cael trosglwyddiad llyfn pan fyddwn ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai.

Wrth wneud y sylwadau hyn, fe wrthododd Theresa May roi cadarnhad y byddai’r cytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd ynglŷn â’r Undeb Tollau yn ymestyn y tu hwnt i 2021.

Mae hyn wedi achosi ffrae rhyngddi hi â’r Ysgrifennydd Brexit, David Davis, yn ystod y dyddiau diwetha’wrth iddo fynnu mai cynllun wrthgefn yw’r cynnig.