Fe fydd glanfa newydd yn agor ym maes awyr Heathrow yn Llundain, yn ôl Llywodraeth Prydain.
Mae’r cynllun dadleuol, sydd wedi hollti barn trigolion lleol a gwleidyddion ers blynyddoedd, wedi cael sêl bendith Aelodau Seneddol sy’n aelodau o is-bwyllgor y Cabinet.
Wrth annerch Tŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 5), fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Chris Grailing, y byddai’r cynllun yn dod â hwb ariannol gwerth £74bn i’r economi.
Dywedodd hefyd ei fod wedi ystyried pryderon nifer o’r trigolion lleol tuag at y cynllun, a’i fod yn addo rhoi pecyn gwerth £2.6 biliwn i gymunedau lleol mewn iawndal ac ar gyfer gwelliannau i adeiladau.
Fe fydd £700m o’r pecyn hwn yn cael ei ddefnyddio i ddiogelu cartrefi rhag effeithiau’r datgblygiad, tra bydd £40m yn mynd i ysgolion ac adeiladau cymunedol.
Fe fydd cyfle i ASau bleidleisio ar y mater erbyn dechrau mis Gorffennaf.