O fis Medi ymlaen, fe fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cefnu ar fathau penodol o blastig.
Bydd y sefydliad yn rhoi’r gorau i ddefnyddio cwpanau, llestri a phlatiau plastig, ac yn defnyddio eitemau sy’n well i’r amgylchedd, yn eu lle.
Yn ogystal, bydd staff y corff yn cael eu hannog i beidio â defnyddio ‘plastig untro’ – hynny yw, plastig sy’n cael ei daflu i’r bin ar ôl cael ei ddefnyddio unwaith.
Mae’r Cynulliad eisoes wedi cefnu ar gwpanau coffi untro, ers rhyw bum mlynedd.
“Ar flaen y gad”
“Mae’r Cynulliad wedi bod ar flaen y gad o ran arferion amgylcheddol a chynaliadwy ers ei sefydlu,” meddai Caroline Jones, Aelod Cynulliad a Chomisiynydd y Cynulliad tros ddiogelwch ac adnoddau.
“Mae’r Senedd yn enghraifft wych o’n ethos gyda’i boeler biomas a’i systemau casglu dŵr glaw.
“Rwy’n falch o ddweud na fyddwn yn defnyddio plastig untro o gwbwl erbyn mis Medi 2018, gan osod meincnod i sefydliadau yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig ei ddilyn.”