Mae Yulia Skripal – y ddynes a gafodd ei gwenwyno yn Salisbury ym mis Mawrth – yn dweud yr hoffai ddychwelyd i’w mamwlad “yn y pen draw”.

Cafodd tad y ddynes, y cyn-ysbïwr Rwsiaidd, Sergei Skripal, ei rhyddhau o’r ysbyty ddydd Gwener (Mai 18) ar ôl wythnosau o driniaeth, wedi iddi hi gael ei gollwng ar Ebrill 10.

Roedd y ddau ohonyn nhw wedi cael eu gwenwyno gan y cemegyn Novichok.

Digwyddodd yr ymosodiad yn ninas Salisbury yn Lloegr, ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi beio Rwsia am y gwenwyno. Mae’r Kremlin yn gwadu hynny.

Trawsnewid

“Mae fy mywyd wedi’i drawsnewid yn llwyr,” meddai Yulia Skripal, “a dw i’n trio dod i delerau â’r newidiadau dinistriol sydd wedi cael eu gorfodi arna’ i, yn gorfforol ac yn feddyliol.

“Hoffwn ddychwelyd i fy mamwlad (Rwsia) yn y pen draw,” meddai wedyn.