Mae disgwyl ymddiheuriad swyddogol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ddiweddarach heddiw, yn gysylltiedig ag achos cwpwl o Libya a gafodd eu hanfon gartref i wynebu cyfnod yn y carchar.

Mae Abdel Hakim Belhaj, 52, a’i wraig, Fatima Boudchar, yn honni bod y wladwriaeth wedi chwarae rôl yn eu hartaith, wrth eu dychwelyd i Libya yn 2004.

Yr unben, Muammar Gaddafi, oedd mewn grym ar y pryd, ac mae Abdel Hakim Belhaj yn honni iddo gael ei arteithio tra’r oedd dan glo.

Yn ôl y cwpwl, fe gyfrannodd gwybodaeth gan wasanaeth cudd MI6 at yr ymgyrch i’w dychwelyd i Libya, ac iddyn nhw gael eu dychwelyd fel rhan o ymdrech y cyn-Brif Weinidog, Tony Blair, i ail sefydlu cysylltiadau diplomyddol â’r wlad

Mae disgwyl cyhoeddiad ar y mater yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Iau, Mai 10).