Mae cwmnïau archfarchnad Sainsbury’s ac Asda mewn trafodaethau ynglyn â’r posibilrwydd o uno er mwyn creu cwmni newydd anferthol a allai fynd benben â Tesco.

Pe baen nhw’n dod i gytundeb, mae disgwyl i’r ddêl fod yn werth £10bn… ac fe allai cyhoeddiad ddod mor fuan â dydd Llun.

Walmart – cwmni archfarchnad mwya’r byd – ydi perchennog Asda, a dydi hi ddim yn glir eto pa ffurf fyddai i’r cwmni newydd. Un opsiwn ydi gweld Sainsbury’s yn sugno siopau Asda, tra bod Walmart yn cael cyfran sylweddol yn y grwp newydd.

Mewn datganiad, meddai cwmni Sainsbury’s: “Rydyn ni’n gallu cadarnhau ein bod ni a Walmart Inc. mewn trafodaethau ynglyn ag uno busnesau Sainsbury’s ac Asda. Fe fydd datganiad pellach yn cael ei wneud am 7yb ddydd Llun, Ebrill 30.”

Pe bai Sainsbury’s ac Asda yn uno, fe fyddai ganddyn nhw, efo’i gilydd, gyfran fwy na Tesco yn y farchnad fwyd.

Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos fod gan Tesco 27.6% o gyfran yn y farchnad; Sainsbury’s 15.8%; a bod gan Asda 15.6%.