Roedd y canwr Cliff Richard yn teimlo fel petai wedi cael ei “reibio a’i fradychu” gan benderfyniad y BBC i ddangos lluniau o’r heddlu yn chwilio trwy ei gartref.
Dyna farn ei ffrind, y ddarlledwraig Gloria Hunniford, wrth roi tystiolaeth i’r achos rhwng y canwr a’r Gorfforaeth.
Roedd y digwyddiadau yn 2014 wedi cael effaith arno am gyfnod hir, meddai, ac roedd yn ymddangos “mewn trallod llwyr”.
Yn yr achos yn yr Uchel Lys, mae Cliff Richard yn siwio’r BBC gan eu cyhuddo o darfu’n ddifrifol ar ei breifatrwydd trwy ddarlledu lluniau o gyrch yr heddlu.
Gwadu hynny y mae’r Gorfforaeth gan ddweud bod y sylw i’r cyrch yn gywir ac yn ddi-falais.
‘Wedi ei staenio am byth’
Ynghynt yn yr achos, a ddechreuodd ddydd Iau, roedd Cliff Richard ei hun yn dweud ei fod yn teimlo wedi ei “staenio am byth” gan yr hyn ddigwyddodd. Roedd gwylio’r heddlu fel gwylio “bwrgleriaid” yn torri i mewn i’w dŷ, meddai.
Yn y diwedd, chafodd dim camau eu cymryd gan yr heddlu yn erbyn Cliff Richard a oedd wedi ei amau o drosedd rywiol hanesyddol.