Mae’r canwr Cliff Richard wedi cyrraedd yr Uchel Lys ar gyfer ei achos yn erbyn y BBC.
Mae’r diddanwr 77 oed yn siwio’r Gorfforaeth ar ôl iddyn nhw ffilmio cyrch heddlu ar ei gartref yn sgil honiadau di-sail o gam-drin rhywiol.
Doedd ganddo ddim i’w ddweud wrth y wasg wrth gyrraedd ond, yn y llys, mae ei fargyfreithiwr wedi honni bod ymddygiad y BBC wedi amharu’n ddifrifol ar breifatrwydd Cliff Richard.
Fe ddywedodd y Gorfforaeth y bydd hi’n amddiffyn y penderfyniad i ddarlledu lluniau o’r cyrch ar gartre’r canwr yn Berkshire yn 2014.
Dechrau’r achos
Yn ôl bargyfreithiwr Cliff Richard, roedd y BBC wedi dangos obsesiwn i guro’u cystadleuwyr, ITN, i’r stori gan fod yn fwy awyddus i ennill penawdau yn hytrach nag adrodd am y newyddion.
Mae Cliff Richard wedi dweud cyn hyn ei fod wedi dioddef niwed “dwfn a hir dymor” oherwydd y sylw.