Mae bachgen 15 oed yn parhau yn y ddalfa, ar ôl iddo gael ei gyhuddo o drywanu merch mewn rhes ginio yn yr ysgol.
Fe ymddangosodd y bachgen gerbron Llys Ieuenctid Southhampton ar amheuaeth o fod ym meddiant arf peryglus, sef cyllell gegin pedair fodfedd o hyd, ynghyd ag achosi niwed corfforol difrifol.
Fe gafodd ei arestio yn dilyn y digwyddiad yn Ysgol Southampton ar Fawrth 26.
Cafodd y ferch ei chludo i’r ysbyty er mwyn derbyn triniaeth ar gyfer anaf a oedd yn cael ei ddisgrifio gan yr heddlu ar y pryd yn un nad oedd yn “ddifrifol”.
Ni blediodd y bachgen i unrhyw gyhuddiadau, ac fe fydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Southampton ar Ebrill 20.