Mae’r mwyafrif helaeth o bobol Cymru yn teimlo eu bod yn dilyn yr un arferion a’r un patrwm bob dydd, yn ôl astudiaeth newydd.

Mae 94.9% o bobol yn dweud bod pob diwrnod o’u bywydau yn union yr un fath â’r nesaf, tra bod 97.4% yn dweud eu bod yn ddefodol eu natur ac yn glynu wrth batrwm dyddiol.

Yn ôl yr astudiaeth, mae 41% yn bwyta’u cinio ar yr un amser bob dydd, ac mae tua thraean yn bwyta’n union yr un brecwast pob bore.

Ond, mae’n ymddangos fod y Cymry hefyd yn awyddus am newid, gyda 74.4% yn benderfynol i dorri’n rhydd o’r drefn feunyddiol, yn ystod y flwyddyn hon.

Y pethau bychain

“Mae dros draean o bobol gwledydd Prydain yn dweud bod dilyn trefn yn rhan o fywyd, a’u bod yn fwy cyfforddus  gyda sefyllfaoedd cyfarwydd,” meddai’r seicolegydd, Jo Hemmings.

“Ond, er bod trefn ddyddiol yn medru bod yn gyffyrddus, mae hefyd yn medru achosi diflastod, a diffyg brwdfrydedd. Mae yna gymaint o ffyrdd cyflym a hawdd… i gymryd mantais o bob diwrnod.

 

Cafodd yr astudiaeth ei gomisiynu gan gwmni dŵr potel, Highland Spring, ac mae’n rhan o’u hymgyrch ‘H20omph’ i annog pobol i drïo profiadau newydd.

Mae’r astudiaeth wedi’i seilio ar ymatebion 1,500 o bobol ledled gwledydd Prydain. Mae’r ystadegau am Gymru wedi’u seilio ar ymatebion 39 o bobol.