Mae faint o blastig sy’n cyrraedd y môr yn mynd i dreblu mewn degawd os na fydd y byd yn gweithredu i atal y broblem.
Dyna rybudd adroddiad newydd sydd hefyd yn dweud y gallai’r môr fod yn faes ymchwil newydd i wyddonwyr ac yn sail i economi fyd-eang newydd.
Mae plastig yn un o nifer o broblemau amgylcheddol sy’n wynebu moroedd y byd, ynghyd â lefelau môr yn codi a chefnforoedd yn cynhesu; a llygredd metel a chemegol.
Ond mae yna hefyd gyfleoedd i’r Deyrnas Unedig elwa o ‘economi y cefnfor byd-eang’ – sy’n cael ei ddyblu i 3 triliwn o ddoleri yr Unol Daleithiau (£2 triliwn) erbyn 2030 – mewn meysydd fel ynni gwynt ar y môr.
Rhybuddiodd y gwyddonwyr y tu ôl i’r adroddiad fod perygl i’r cefnforoedd “fynd yn angof”, gyda mwy o wybodaeth am wyneb Mawrth ac am y Lleuad nac am wwely’r môr.
Gyda 95% o fasnach ryngwladol gwledydd Prydain yn defnyddio’r môr i gludo cynnyrch, mae angen hefyd meddwl am yr holl wybodaeth sy’n cael ei chario gan geblau tanddaearol, ac am gefnforoedd sy’n storio carbon deuocsid a gwres ac yn cynhyrchu ocsigen a bwyd.
Mae yna “gyfleoedd mawr” ar gyfer roboteg, deallusrwydd artiffisia,l a thechnoleg awtomataidd, meddai’r arbenigwyr.