Mae arweinydd yr wrthblaid yn San Steffan yn dweud y byddai’n dal i wneud busnes gyda Rwsia – er gwaethaf “pob bys sy’n pwyntio” tuag at y wlad ac yn ei chyhuddo o fod yn gyfrifol am wenwyno cyn-ysbïwr yn Salisbury.
Mae Jeremy Corbyn yn cael ei orfodi i amddiffyn ei safbwynt ar yr ymosodiad, ar ôl gwrthod bai Kremlin am wenwyno Sergei Sgripal a’i ferch, Yulia, ar Fawrth 4.
Mae rhybudd cynharach gan Corbyn i beidio â “rhoi cart o flaen y ceffyl cyn dod o hyd i’r dystiolaeth” wedi arwain at feirniadaeth gan y Ceidwadwyr a rhai o aelodau meinciau cefn Llafur.
“Mae pob bys yn pwyntio tuag at gyfranogiad Rwsia yn hyn o beth, ac yn amlwg, gwnaethpwyd y gwaith o gynhyrchu’r deunydd gan y wladwriaeth Rwsia yn wreiddiol,” meddai wrth raglen World at One ar Radio 4.
“Yr hyn rwy’n ei ddweud yw, bod yr arfau’n cael eu gwneud yn Rwsia, yn amlwg. Rwy’n credu bod raid i Rwsia gael ei dal yn gyfrifol am hynny, ond mae’n rhaid bod ateb hollol ddiffiniol i’r cwestiwn o ble daeth y nwy nerfol? Gofynnais am i’r Rwsiaid gael sampl, fel eu bod nhw’n gallu dweud yn iawn, un ffordd neu’r llall . ”
Mae Jeremy Corbyn yn dal i fod mewn cyswllt â Rwsia, ac mae’n dweud y byddai’n “dal i wneud busnes” gyda’r arlywydd Vladimir Putin pe bai Llafur yn dod i rym.
“A fyddwn i’n gwneud busnes gyda Putin? Yn sicr. Ac fe fyddwn i’n ei herio ar hawliau dynol yn Rwsia, ei herio ar y materion hyn, a’i herio ar sail gyfan o’r berthynas honno,” meddai wedyn.