Fe fydd 5% yn fwy o gynhyrchu olew a nwy yn digwydd ym Môr y Gogledd yn ystod 2018, yn ôl rhagolygon.

Ond,  mae adroddiad sy’n cadw llygad ar nifer a chyflwr y ‘ffynhonnau’ olew yn darogan bod drilio y blynyddoedd nesaf yn mynd i fod yn “llawer mwy ansicr”.

Mae Oil and Gas UK wedi cyhoeddi ei.ragolwg busnes diweddaraf, gan ddangos y gallai rhwng 620 a 640 miliwn o gasgenni o olew gael eu cynhyrchu eleni.

517 miliwn o gasgenni gafodd eu cynhyrchu yn 2014.

Ond mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at “bryder difrifol” am y diffyg drilio ym Môr y Gogledd, gyda 94 o ffynhonnau yn cael eu hagor yn 2017, y nifer isaf ers 1973.