Mae arweinwyr busnes wedi croesawu’r cyhoeddiad bod consensws rhwng Prydain a’r Undeb Ewropeaidd (UE) ynglŷn â’r cyfnod pontio pan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael ym mis Mawrth 2019.
Yn dilyn trafodaethau ym Mrwsel, dywedodd prif drafodwr yr UE Michel Barnier a’r Ysgrifennydd Brexit, David Davis y bydd busnesau yn cael parhau i gael mynediad llawn i’r farchnad sengl a’r undeb tollau hyd at ddiwedd 2020.
“Hyder”
Dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol y CBI Carolyn Fairbairn bod y cytundeb wedi rhoi rhagor o amser i gwmnïau yn y DU a’r UE.
“Mae cytuno ar y cyfnod pontio yn garreg filltir hanfodol a fydd yn rhoi hyder i gannoedd o fusnesau i roi eu cynlluniau wrth gefn i’r neilltu a pharhau i fuddsoddi yn y DU,” meddai.
Ychwanegodd bod hyn yn “fuddugoliaeth i synnwyr cyffredin a fydd yn helpu i ddiogelu safonau byw, swyddi a thwf.”
Ond mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Syr Vince Cable wedi beirniadu’r cytundeb: “Does gynnon ni o hyd fawr ddim syniad beth fydd yn digwydd i ffin Gogledd Iwerddon ac mae’r Llywodraeth wedi cael ei gorfodi i gytuno i lai o gyfnod pontio hyd at fis Rhagfyr 2020,” meddai.
Yn y cyfamser mae pysgotwyr wedi mynegi pryder y bydd y DU yn gorfod parhau i fod ynghlwm a’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (CFP) yn ystod y cyfnod pontio gan ddweud bod hyn yn “annerbyniol”.
Dinasyddion
Fe fydd dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n dod i’r DU yn ystod y cyfnod pontio, yn ogystal â phobl o wledydd Prydain sy’n ymgartrefu ar y Cyfandir, yn cael yr un hawliau a’r rhai sydd mewn lle cyn Diwrnod Brexit, meddai prif drafodwr yr UE Michel Barnier.
Fe fydd yn rhaid i’r cytundeb gael sêl bendith arweinwyr yr UE yn ystod uwchgynhadledd y Cyngor Ewropeaidd ar 22 a 23 Mawrth. Golyga hyn y bydd yn caniatáu i drafodaethau hanfodol ynglŷn â’r trefniadau masnach rhwng yr UE a’r DU fynd rhagddynt o ddifrif.