Mae cynrychiolwyr o’r Unol Daleithiau, De Corea a Siapan wedi cymryd rhan mewn trafodaethau tros waredu arfau niwclear o benrhyn Corea.
Mewn datganiad yn sgil y cyfarfod, mae’r tair ochr wedi cytuno i barhau a’r cydweithio, ac wedi awgrymu eu bod yn parhau’n wyliadwrus o Ogledd Corea.
Bellach mae’n ymddangos bod tensiynau diplomyddol rhwng Gogledd Corea a’r Unol Daleithiau wedi lleddfu rhywfaint, ac mae’r ddwy ochr wedi cyfleu awydd i drafod a’r llall.
Ac yn ogystal, mae Gogledd Corea wedi awgrymu eu bod yn awyddus i gefnu ar eu rhaglen arfau niwclear dan amodau penodol.
Er hyn, mae llawer o arbenigwyr yn amheus o amcanion Arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un, ac yn amau’n fawr fod y wlad yn barod i ildio’i rhaglen arfau.