Mae dynes o wledydd Prydain wedi marw wrth ymladd gyda byddin Gwrdaidd yn Syria, meddai ei thad.
Bu farw Anna Campbell, o Lewes, yn Nwyrain Sussex ar Fawrth 15 yn Afrin wrth frwydro gyda’r YPJ, sy’n rhan o’r Unedau Diogelu Pobol Gwrdaidd, yn ôl y BBC.
Credir ei bod wedi ei lladd yn ystod ymosodiad o’r awyr gan luoedd Twrci.
Dywedodd ei thad, Dirk Campbell bod ei ferch 26 oed eisiau “creu byd gwell ac y byddai’n gwneud popeth yn ei gallu i wneud hynny.”
Mae’r YPJ yn fyddin o ferched yn unig sy’n rhan o’r Unedau Diogelu Pobol Gwrdaidd, sydd å thua 50,000 o ddynion a merched Cwrdaidd yn brwydro yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yng ngogledd Syria.
Mae’r tensiynau rhwng Twrci a grwpiau Cwrdaidd wedi dwysau ers mis Ionawr.