Mae Vladimir Putin wedi’i ethol yn Arlywydd Rwsia am y chwe blynedd nesaf, wedi iddo sicrhau buddugoliaeth yn etholiad y wlad.
Dyma fydd ei bedwerydd tymor wrth y llyw, wedi iddo sicrhau mwy na 76% o’r bleidlais.
Wrth annerch cefnogwyr yn dilyn ei fuddugoliaeth, dywedodd: “rydym ar y ffordd i lwyddiant.”
Daw’r digwyddiad hwn yn ystod yr un cyfnod â phan mae tensiynau rhwng Rwsia a’r gorllewin yn dwysau, gyda’r Kremlin yn cael y bai am yr ymosodiad yng Nghaersallog ddechrau’r mis.
Ac yn gynharach ar ddydd Sul, fe gyfeiriodd Vladimr Putin at y cyhuddiadau mai Rwsia oedd yn gyfrifol am wenwyno’r cyn-ysbïwr, Sergei Skripal, a’i ferch, Yulia, fel “nonsens”.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth y Deyrnas Unedig ddiarddel 23 o ddiplomyddion Rwsia o’r wlad, ac mae Rwsia wedi ymateb yn yr un modd trwy ddiarddel yr un maint o ddiplomyddion.