Mae cyflwynwraig deledu o Sir Benfro, a fu’n un o enwau mawr sioe frecwast ITV am flynyddoedd, yn dweud iddi dderbyn llai o gyflog na’i chyd-gyflwynydd gwrywaidd.

Yn ei cholofn ym mhapur newydd The Mirror heddiw, mae Fiona Phillips yn dweud nad oedd hi’n cael yr un cyflog ag Eamonn Holmes, er iddi gael ei galw’n ‘Frenhines’ y rhaglen boblogaidd, GMTV.

“O gymharu ag Eamonn Holmes,” meddai Fiona Phillips, “mi o’n i’n dlotyn. Yn ariannol, roedd yna wahaniaeth mawr rhyngof fi a fy mhartner ar-sgrin a oedd hefyd yn cael breintiau eraill nad oeddwn i’n cael fy ystyried yn deilwng ohonyn nhw.

“A phan o’n i’n feichiog, roedd hynny’n cael ei weld yn niwsans ac yn anghyfleustra gan y bosys,” meddai’r fam i ddau o blant, sydd bellach yn 57 oed.

“Fe fu’n rhaid i mi hyd yn oed ymladd am dâl mamolaeth, wedi i’r bosys ddweud nad oedd gwylwyr yn hoffi gweld merched beichiog ar y teledu, yn enwedig ben bore!”

Y llynedd, fe gafodd Eamonn Holmes ei enwi y “cyflwynydd sioe frecwast gorau erioed”. Mae wedi treulio cyfnod yn cyflwyno sioe Sunrise ar sianel Sky wedi iddo adael Good Morning Britain ar ITV.