Fe fydd trafodaethau yn cael eu cynnal yn Llundain heddiw (Mawrth 13), mewn ymgais i atal streic a fydd yn cael ei chynnal yn ardal y dociau ar ddiwrnod Marathon Llundain.

Yn ôl Undeb y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT), fe fydd cyfarfod yn adeilad y gwasanaeth cymodi, ACAS, yn dilyn anghydfod rhwng aelodau’r undeb a gweithredwyr y Metro ysgafn yn ardal y dociau yn Llundain, sef KeolisAmeey Docklands (KAD).

Mae’r RMT yn honni y byddai streic ar ddiwrnod y Marathon, sy’n cael ei gynnal ar Ebrill 22, yn achosi tipyn o drafferth, gyda nifer yn ddibynnol ar wasanaeth y Metro er mwyn cyrraedd y llinell gychwyn yn Greenwich.

Ar ôl pleidlais o blaid gweithredu’n ddiwydiannol, bwriad yr undeb yw streicio am ddu ddiwrnod ddiwedd mis Mawrth, gan gychwyn am 4yh ar Fawrth 28, ynghyd â phedwar diwrnod ddiwedd Ebrill, a hynny o 4yh ar Ebrill 20 ymlaen.

“Trin fel baw” 

Yn ôl Prif Ysgrifennydd y RMT, Mick Cash, mae’r ffordd mae gweithwyr y metro’n cael eu trin yn “staen ar Lundain”, ac mae’n annog maer y ddinas, Sadiq Khan, i “gymryd sylw”.

“Mae’r anghydfod hwn yn ymwneud â materion sylfaenol megis cyfiawnder yn y lle gwaith, tegwch,  a’r angen i gadw at gytundebau ac ymarferion mae Keolis yn credu ei bod nhw’n gallu eu hanwybyddu,” meddai.

“Mae aelodau’r RMT sy’n cael eu cyflogi gan KAD wedi cael digon o gael eu trin fel baw, ac maen nhw wedi dweud yn glir ei bod nhw’n barod i sefyll i fyny ac i ymladd dros ei hawliau sylfaenol.”

Mae Prif Weithredwr dros dro’r metro yn y dociau wedyn, sef Mark Davis, yn annog y ddwy blaid i drafod y materion hynny sydd wedi achosi’r anghydfod, er mwyn sicrhau bod y streic yn cael ei atal “cyn gynted â phosib.”