Mae’r chwaraewr rygbi, Cory Hill, wedi dweud bod Cymru ar dir cadarn i orffen yn yr ail safle ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Fe fydd pwynt bonws yn y gêm yn erbyn Ffrainc y penwythnos nesaf yn sicrhau bod Cymru’n aros yn yr ail safle ar ddiwedd y bencampwriaeth.

Pe bai hynny’n digwydd, dyma fydd y pedwerydd tro yn y saith blynedd diwethaf i Gymru gyrraedd y ddau safle uchaf yn y gystadleuaeth.

Ac yn ôl Rory Hill, a sgoriodd ei gais cyntaf yn erbyn yr Eidal dros y penwythnos, gan sicrhau buddugoliaeth o 38-14 i’r crysau cochion, fe fydd gorffen yn yr ail safle yn “uchafbwynt”.

Er hyn, mae’r garfan yn wynebu tîm hyderus o Ffrainc, a wnaeth sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Lloegr dros y penwythnos o 22 pwynt i 16.

“Rydym ni’n gwybod bod Ffrainc yn mynd i ddod yma gyda’u pennau’n uchel [ers maeddu Lloegr],” meddai Cory Hill. “Ond ry’n ni eisoes wedi sôn am gael dwy fuddugoliaeth er mwyn gorffen y bencampwriaeth.

“Ry’n ni wedi cael un, ac ry’n ni eisiau’r un nesaf yn erbyn Ffrainc.”

Angen “tynhau ein disgyblaeth”

Mae’r blaenwr, sy’n chwarae i glwb rhanbarthol y Dreigiau, hefyd yn dweud bod angen i Gymru wella ar ei pherfformiad yn dilyn y gêm yn erbyn yr Eidal dros y penwythnos, er gwaethaf ei buddugoliaeth.

“Mae angen i ni dynhau ein disgyblaeth yn dilyn yr hanner cyntaf [yn erbyn yr Eidal],” meddai eto. “Fe wnaethom ni gael cychwyn da yn yr 20 munud cyntaf… Ond fe wnaeth yr ail 20 munud o’r hanner cyntaf ein  gadael i lawr ychydig.

“Fe wnaeth gwpwl o gosbau hawdd eu dychwelyd nhw [yr Eidal] i’r gêm, ac roedd hynny’n eithaf rhwystredig. Ond fe gawsom ni dipyn o gerydd yn ystod yr hanner amser, ac fe wnaethom ni ddychwelyd a llwyddo i gael y pwynt bonws yn y diwedd.”

Penwythnos ola’r Chwe Gwlad

Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Ffrainc yn Stadiwm y Principality ddydd Sadwrn nesaf (Mawrth 17), gyda’r gêm yn cychwyn am 5yh.

Fe fydd Prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, yn cyhoeddi ei garfan ddydd Iau, ac mae disgwyl i Alun Wyn Jones, Leigh Halfpenny, Rob Evans ac Aaron Shingler ddychwelyd.

Mae’n eithaf sicr erbyn hyn mai Iwerddon yw enillwyr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad am eleni, gyda Chymru ar hyn o bryd yn yr ail safle.

Dim ond un pwynt sydd yn ei gwahanu â Lloegr a Ffrainc, sy’n gyfartal â’i gilydd ar 10 pwynt.