Mae dyn 34 oed o Lundain wedi cyfaddef iddo ladd athrawes gyda morthwyl ar ôl cymryd cocên a gwylio pornograffi.

Mae Lucian Stinci wedi pledio’n euog o ladd Florina Pastina, 36 oed, yn y cartref yr oedd y ddau’n ei rannu yn Croydon.

Roedd y gŵr, sy’n wreiddiol o Rwmania, wedi cymryd cocên cyn yr ymosodiad ar Fehefin 19, ynghyd â gwylio ffilmiau pornograffig trwy gydol y noson gynt.

Roedd Florina Pastina yn athrawes gynradd yn Ysgol Tornton Heath, ac ar ôl cael ei lladd gyda morthwyl, fe ddefnyddiodd Lician Stinci yr un arf i ymosod ar ei neiaint 25 oed, sef yr efeilliaid Nicholas Hellen a Claudia Pastina.

Camera cudd yn y gawod

Cyn y digwyddiad, roedd Lucian Stinci eisoes wedi gosod camera cudd yng nghawod y tŷ, gan gadw fideos o Florina Pastina ar feddalwedd.

Ac wrth ymchwilio’r tŷ wedyn, fe wnaeth yr heddlu ganfod cardiau San Ffolant a phen-blwydd oddi wrth Lucian Stinci yn ystafell wely’r athrawes, gydag un yn cynnwys: “I’r greadures brydferthaf yn y bydysawd.”

Fe ymddangosodd Lucian Stinci o flaen llys yr Old Bailey heddiw, a phlediodd yn euog i lofruddiaeth, ynghyd â chyhuddiadau o achosi niwed corfforol a bod ym meddiant cyffur dosbarth A.

Mae yn bosib y bydd yn cael ei ddedfrydu yn hwyrach heddiw.