Mae rheithgor wedi cael y cyn hyfforddwr pêl-droed Barry Bennell yn euog o saith trosedd arall o gam-drin rhywiol yn erbyn bechgyn.

Mae hynny’n golygu, erbyn diwedd yr achos yn ei erbyn yn Llys y Goron Lerpwl, ei fod yn euog o gyfanswm o 43 o droseddau yn erbyn 11 o fechgyn.

Mae un o’r bechgyn hynny,  Andy Woodward, wedi galw ar i’r awdurdodau pêl-droed weithredu ynghylch y clybiau lle’r oedd Barry Bennell wedi gweithio.

Mae hynny’n cynnwys clwb Crewe Alexander, lle’r oedd Andy Woodward ei hun, a lle bu Barry Bennell yn gweithio am flynyddoedd.

Chwaraewyr o Gymru

Roedd chwaraewyr ifanc o Gymru yn mynd i Crewe ac mae un dioddefwr hefyd wedi awgrymu bod cyn-reolwr Cymru, Gary Speed, yn un o’r dioddefwyr.

Mae cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Robbie Savage, hefyd wedi siarad am gyfarfod Bennell pan oedd ar lyfrau Crewe a’r hyfforddwr yn gwneud argraff fawr arno.

Fe ddisgrifiodd wrth y Daily Mirror hefyd sut yr oedd Barry Bennell yn dylanwadu ar chwaraewyr ifanc.

Priodi

Un enghraifft o hyfdra Barry Bennell oedd ei fod wedi parhau i gam-drin Andy Woodward er fod yr hyfforddwr erbyn hynny yn caru gyda chwaer y bachgen ifanc.

Yn ddiweddarach, roedd yr hyfforddwr, sydd bellach yn galw ei hun yn Richard Jones, wedi priodi chwaer Andy Woodward.

Fe ddylai’r clybiau hefyd ymddiheuro i’r chwaraewyr ifanc, meddai Andy Woodward sydd wedi penderfynu siarad yn agored am y cam-drin.

Ar risiau’r llys heddiw, fe ddywedodd ei fod yn falch o’r hyn yr oedd wedi’i wneud.

  • Mae disgwyl y bydd Barry Bennell yn cael ei ddedfrydu ddydd Llun ac mae un dioddefwr eisoes wedi dweud na ddylai “weld golau dydd fyth eto”.