Mae dyn a ddioddefodd dan law Barry Bennell, wedi dweud bod cyn rheolwr pêl droed Cymru, Gary Speed, wedi bod mewn cysylltiad â’r hyfforddwr pêl droed pan oedd yn bêl droediwr ifanc.

Dywedodd y dioddefwr wrth reithgor fod Gary Speed a thri dyn arall – un arall o Gymru – oedd wedi cael eu hyfforddi gan Barry Bennell wedi mynd ymlaen i ladd eu hunain.

Cymro oedd un arall o’r pedwar – Alan Davies a chwaraeodd bêl droed i Gymru, Dinas Abertawe a Manchester United ac a laddodd ei hun yn Horton ger Abertawe yn 1992 drwy wenwyn carbon monocsid.

Cysylltu â theulu Gary Speed

Yn y llys, dywedodd y dioddefwr ei fod wedi ceisio cysylltu â rheini’r cyn rheolwr, a grogodd ei hun yn 2011 yn 42 oed, i ddweud wrthyn nhw am y gamdriniaeth.

“Mae pedwar person o dimau dw i wedi chwarae, gyda Bennell, wedi cymryd eu bywydau eu hunain,” meddai.

“P’un a ydyn nhw wedi cymryd eu bywydau o achos Barry yn unig, dw i ddim yn gwybod, ond y cyfan dw i’n gwybod yw ei fod wedi cael effaith arna’ i a sut gallai effeithio ar bobol eraill.”

Methu â dod i delerau

Roedd cysylltu â rhieni Gary Speed ar ôl iddo ddarllen yn y papur nad oedden nhw wedi gallu dod i delerau â’i farwolaeth am nad oedd ganddyn nhw eglurhad.

Pan gododd yr honiadau yn erbyn Barry Bennell, 64, dywedodd teulu Gary Speed nad oedd yn ddioddefwr ac nad oedden nhw wedi bod yn rhan o’r ymchwiliad.

Fe wnaeth trydydd dyn, Mark Hazeldine, ladd ei hunan yn 2006. Mae’r heddlu wedi methu â sefydlu beth ddigwyddodd i’r pedwerydd dyn.

Cam-drin ‘mwy na 100’

Gallai’r cyn hyfforddwr pêl droed fod wedi cyflawni troseddau rhywiol yn erbyn mwy na 100 o blant, ar ôl i 86 o bobol eraill ddweud iddyn nhw gael eu cam-drin.

Mae achos y cyn hyfforddwr wedi dod i ben erbyn hyn ac mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu am gam-drin 11 bachgen ddydd Llun.

Fe fu dan glo dair gwaith o’r blaen am droseddau tebyg yn erbyn 17 o fechgyn.