Mae Nicola Sturgeon wedi cyhoeddi fod cronfa o £500,000 ar gael i annog mwy o ferched i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.
Yn ol prif weinidog yr Alban, mae’r bwriad yn deyrnged i’r Swffragetiaid a ymgyrchodd er mwyn sicrhau’r bleidlais i fenywod.
Er bod cynnydd wedi bod yn nifer y merched sy’n mynd i fyd gwleidyddiaeth ers i ferched ennill yr hawl i bleidleisio ganrif yn ol, meddai, mae angen gweithredu pellach.
Fe fydd Llywodraeth yr Alban yn rhannu grantiau i ymgyrchoedd ledled y wlad eleni a fydd yn annog merched i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ac i nodi canrif ers pasio Deddf Cynrychiolaeth y Bobol 1918.
“Mae nodi canrif ers rhoi’r bleidlais i fenywod yn ddigwyddiad mawr,” meddai Nicola Sturgeon. “Nid yn unig y mae o’n ein hatgoffa o lwyddiant mercher, ond mae hefyd yn gyfle i chwistrellu momentwm newydd i’r ymdrech i gael mwy o fenywod ym myd gwleidyddiaeth ac ym mywyd cyhoeddus yr Alban.
“Er ein bod ni wedi dod yn bell ers 1918,” meddai wedyn, “mae llawer o waith i’w wneud eto os ydyn ni am gael gwared ag anghyfartaledd, a chreu gwlad decach a mwy ffyniannus.”