Mae etholwyr Alyn a Glannau Dyfrdwy yn bwrw eu pleidlais heddiw er mwyn dewis Aelod Cynulliad i olynu Carl Sargeant.

Bu farw’r cyn-Aelod Cynulliad fis Tachwedd y llynedd. 

Jack Sargeant sy’n sefyll ar ran y Blaid Lafur, gyda Sarh Atherton ar ran y Ceidwadwyr, Carrie Harper i Blaid Cymru, Dona Lalek i’r Democratiaid Rhyddfrydol, a Duncan Rees i’r Blaid Werdd.

Mae blychau pleidleisio wedi agor heddiw am 7yb, ac fe fyddan nhw’n cau am 10yh. Mae disgwyl canlyniad yn fuan fore Mercher (Chwefror 7). 

Yn yr etholiad Cynulliad diwethaf yn 2016, fe lwyddodd Llafur i gipio’r sedd gyda mwyafrif o 5,364 o bleidleisiau, gyda’r Ceidwadwyr yn ail ac UKIP yn drydydd.