Fe fydd yn rhaid i Rwsiaid cyfoethog sydd dan amheuaeth o lygredd esbonio ffynhonellau eu cyfoeth, yn ôl un o weinidogion y llywodraeth.

Mae gorchmynion newydd – UWO (unexplained wealth orders) – wedi dod i rym yr wythnos yma, sy’n galluogi’r llywodraeth i gipio asedau amheus a dal gafael arnyn nhw hyd nes bo esboniad boddhaol.

Mewn cyfweliad ym mhapur newydd y Times heddiw, dywed y Gweinidog Diogelwch, Ben Wallace, fod cwmnïau ffug ym Mhrydain yn cael eu defnyddio i wyngalchu arian budr Rwsiaidd trwy fanciau gwledydd y gorllewin.

“Fe wyddon ni o achos diweddar ‘Laundromat’ fod cysylltiadau â gwladwriaeth Rwsia,” meddai. “Safbwynt y Llywodraeth yw ein bod ni’n gwybod beth sy’n mynd ymlaen ac na fyddwn ni’n gadael iddo ddigwydd o hyn ymlaen.”

Amcangyfrifir bod tua £90 biliwn o gyllid anghyfreithlon yn cael ei wyngalchu trwy’r Deyrnas Unedig bob blwyddyn.