Mae cyn-filwr parafilwrol wnaeth gyflawni 202 o droseddau brawychol a llofruddio pum person yng Ngogledd Iwerddon, wedi derbyn dedfryd o garchar.

Bydd Garry Haggarty, 46, – cyn-bennaeth Llu Gwirfoddolwyr Ulster (UVF) – yn treulio chwe blynedd dan glo cyn y bydd awdurdodau’n ystyried ei ryddhau.

Er ei fod yn wynebu dedfryd o 35 blynedd dan glo, cafodd y ddedfryd ei lleihau oherwydd ei fod wedi rhannu tystiolaeth ynglŷn â brawychwyr eraill.

Bydd un person yn cael ei erlyn ar amheuaeth o lofruddio ar sail y dystiolaeth yma.

Plediodd Garry Haggarty yn euog i bum cyhuddiad o lofruddiaeth, pum cyhuddiad o geisio llofruddio, a 23 cyhuddiad o gynllwynio i lofruddio ac o gyfarwyddo brawychiaeth.

Dywedodd y barnwr Adrian Colton bod y troseddwr wedi achosi “difrod anferth” i gymdeithas, ond ei fod wedi darparu cymorth “sylweddol” i’r erlyniad.