Mae’r cyngor mwyaf yn yr Alban am roi’r gorau i ddefnyddio gwelltynnau plastig oherwydd pryderon am les bywyd gwyllt.
Ymgyrch gan Ysgol Gynradd Sunnyside yn Craigend wnaeth ysgogi’r newid hyn, a’r disgwyl yw y bydd Cyngor Glasgow yn troi at opsiynau fwy ecogyfeillgar yn y dyfodol.
“Rydym ni wedi derbyn llawer o gefnogaeth gan Gyngor Dinas Glasgow, ac mae’r cyhoeddiad yma yn hwb mawr,” meddai Lisa Perrie, Prifathrawes Ysgol Gynradd Sunnyside.
“Mae’n dangos i’r plant eu bod yn medru newid y byd, a bod eu daliadau yn bwysig.”
Peryglu anifeiliaid
Mae’n debyg bod gwelltynnau ymysg nifer o eitemau plastig sydd yn llygru moroedd y byd ac yn peryglu adar y môr, crwbanod, morfilod a physgod.
O ddiwedd Chwefror ymlaen bydd y Cyngor yn rhoi’r gorau i ddarparu gwelltynnau mewn adeiladau cyhoeddus sy’n darparu bwyd.
Mae disgwyl bydd y penderfyniad yn atal degau o filoedd o welltynnau rhag cael eu taflu i finiau sbwriel.