Mae’r nifer o droseddau rhyw yn y de wedi cynyddu 257% yn y pum mlynedd diwethaf, yn ôl yr heddlu.

Yn ôl y patrwm yma bydd troseddau rhyw wedi cynyddu o 727 yn 2011-12 i 2,593 yn 2017-18.

Ac yn ôl Comisiynydd Heddlu’r De, Alun Michael, mae angen penodi 141 o blismyn a staff arbenigol i ddelio â’r cynnydd hwn.

Mae’r adroddiad gan y Comisiynydd Heddlu hefyd yn nodi:

  • Fe fydd yna 500 yn ychwanegol o droseddwyr rhyw cofrestredig yn y tair blynedd nesaf.
  • Mae’r nifer o achosion o droseddau rhyw wedi gweld cynnydd o 31% – o 1,551 yn Rhagfyr 2013 i 2,031 yn Rhagfyr 2017.
  • Mae ymchwiliadau i droseddau rhyw hanesyddol wedi cynyddu o 16 yn 2015 i 25 yn 2017.
  • Mae’r nifer o adroddiadau am bobol ar goll wedi cynyddu o 4,079 yn 2012 i 8,531 yn 2016-17.

Y cynllun

 Fe gafodd y cynllun i benodi rhagor o staff arbenigol â throseddau rhyw ei gyflwyno yn 2016, ac mae disgwyl y bydd yn cael ei gwblhau erbyn mis Awst 2019.

Ond mae’r Comisiynydd yn dweud y dylai’r cynllun gael ei gwblhau ynghynt, sef erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2018-18, wrth i’r nifer o droseddau gynyddu.

Ac er mwyn delio â’r angen am ragor o staff, mae Alun Michael hefyd yn awgrymu y dylai siâr yr heddlu o dreth y cyngor yn ystod 2018-19 gynyddu 7%.

Fe fydd Panel yr Heddlu a Throseddau yn cyfarfod i ystyried yr adroddiad a’i argymhellion ddydd Mawrth nesaf.