Roedd gan hyfforddwr pêl-droed “rym” tros fechgyn ifanc yr oedd yn eu hyfforddi, yn ôl un o’r rhai sy’n honni iddo ei gamdrin yn rhywiol.

Mae Barry Bennell, 64, wedi’i gyhuddo o 48 o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn 11 o fechgyn. Honnir bod y troseddau wedi’u cyflawni rhwng 1979 a 1990.

Clywodd Llys y Goron Lerpwl gan un o’r rhai sy’n honni iddo gael ei gamdrin gan Bennell, oedd wedi dod i’w adnabod yn ystod sesiynau ymarfer Man City.

“Fe fyddai’n gwneud i chi deimlo fel pe baech chi’n sefyll allan,” meddai wrth y llys, “fel pe baech chi’n wahanol, fel pe baech chi’n arbennig.

“Roedd pob bachgen yn breuddwydio am gael bod yn bêl-droediwr, felly roedd pawb am ei blesio fe.”

Clywodd y llys y byddai’r bechgyn yn aros yng nghartref Barry Bennell, lle’r oedd ganddo sawl gwely – gan gynnwys gwely dwbwl y byddai’n ei rannu â bechgyn.

Yn y tywyllwch

Byddai Barry Bennell, meddai, yn diffodd y golau ac yn chwarae cerddoriaeth yn uchel cyn cam-drin y bechgyn.

Dywedodd y tyst fod y gân ‘Cacharpaya’ ar y pibau gan Incantation yn “anfon ias” i lawr ei gefn. Ychwanegodd fod yna “reol na châi ei hadrodd” na ddylid siarad am yr hyn oedd yn digwydd yno.

“Roedd ganddo fe dipyn o rym drosom ni o ran hynny, ac roedd yn eithaf brawychus.”

Dywedodd ei fod e wedi cael ei gamdrin “ddegau os nad cannoedd o weithiau” gan Barry Bennell.

Pwllheli

Dywedodd y tyst ei fod yn cofio dyn o’r enw ‘Sid’ yn gweithio yn y siop fideo islaw fflat Barry Bennell, a’i fod yn credu ei fod hefyd yn blismon.

Dywedodd iddo gael ei gamdrin ar daith gyda’i dîm pêl-droed i Butlin’s ym Mhwllheli, a’i fod yn cofio dihuno a darganfod Barry Bennell y tu ôl iddo.

Ond dywedodd fod yr hyfforddwr wedi colli diddordeb ynddo nifer o flynyddoedd yn ddiweddarach – a hynny am ei fod yn rhy hen bellach.

Dywedodd nad oedd e wedi dweud wrth unrhyw un am yr hyn yr oedd Bennell wedi’i wneud tan 2016, a hynny ar ôl clywed honiadau gan bobol eraill.