Fe fydd Cymro o Gaerdydd yn teithio i Arfordir Aur, Awstralia, i gynrychioli ei wlad yn Para-gemau’r Gymanwad ddechrau mis Ebrill eleni.
Roedd Josh Stacey wedi byw 17 mlynedd o’i oes heb wybod ei fod yn diodde’ o barlys yr ymennydd, ond mae cael y diagnosis wedi ei wneud yn fwy penderfynol o wneud ei orau… a llwyddo.
Mae’r athletwr o Gaerdydd yn 16eg ar restr detholion y byd bellach, ac mae wedi ei ddewis i gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth para-tenis bwrdd TT6-10.
“Pan ges i gadarnhad bod gen i barlys yr ymennydd, wnaeth e ddim really cael effaith arna’ i oherwydd fy mod i wedi byw 17 mlynedd o’m bywyd heb wybod,” meddai Josh Stacey wrth golwg360.
“Y prif beth oedd deall pam roeddwn yn teimlo pethau yn fy nghoesau nad oedd neb arall yn eu teimlo. I fod yn onest, dyw e ddim yn fy nal i’n ôl y dyddiau hyn, oherwydd rwy’n ffocysu ar wella fy hunayn ac rwy’n gobeithio bydd y canlyniadau yn dod gydag amser…”
Medal efydd
Mae Josh Stacey wedi cynrychioli tim Prydain – y tro cynta’ oedd ym Mhencampwriaeth Agored Para Gwlad Belg, lle’r enillodd fedal efydd unigol a medal aur gyda’r tîm. Dyma’r canlyniadau sydd wedi sicrhau ei le ar gyfer tim Cymru yn yr Arfordir Aur.
“Fe ddechreues i chwarae tenis bwrdd pan yn ddeuddeg oed,” meddai Josh Stacay. “Roedd sesiwn blasu’n cael ei cynnal yn yr ysgol, ac mi wnes i fwynhau fy hun.
“A bod yn onest, fi oedd y gwaethaf yn y dosbarth! Ond, oherwydd fy mod i mor gystadleuol, mi wnes i benderfynu ceisio chwarae mor aml â phosib.
“Ar ôl tua chwech mis, fe sylweddolais ei bod hi’n gamp yr o’n i’n ei mwynhau… ro’n i’n trechu pobol nad oeddwn i’n gallu eu curo fisoedd cyn hynny.”
Astudio ac ymarfer
Ar hyn o bryd, mae Josh Stacey yn astudio yng Ngholeg Grantham, lle mae yna academi tenis bwrdd, Mae’n dod adref i Gymru “pan mae’n gallu”, meddai, ond Grantham yw ei gartref erbyn hyn.
“Dw i’n ymarfer tua 14-18 awr yr wythnos, yn dibynnu os oes gen i gystadlaethau ar benwythnosau,” meddai. “Rwy’n ceisio ymarfer fy ergydion yn gyson, ac rwy’n codi pwysau ac yn gwneud gwaith cardiofasgiwlar a hyfforddiant cylchol hefyd.
“Fy uchelgais yn y gemau fydd dangos fy mod i’n haeddu fy lle. Os enilla’ i fedwl, fe fydd hynny’n bonws.”
Mae ganddo un llygad ar Gemau Paralympaidd 2020 yn Tokyo – a’r targed yno fyddai cipio medal aur. Dim byd llai.