Yn ystod tri mis olaf 2017, Lidl ac Aldi oedd yr archfarchnadoedd a gynyddodd fwyaf, wrth i siopwyr roi eu gofidiau a’u dyledion o’r neilltu a phenderfynu gwario ar fwydydd erbyn y Nadolig, meddai ffigurau diweddar.

Mae Aldi wedi cyhoeddi cynnydd o 15% yn ei gwerthiant yn ystod mis Rhagfyr o’i gymharu â’r un mis yn 2016, gan fynd â chyfanswm eu gwerthiant dros £10bn am y tro cyntaf.

Roedd gwerthiant y rhan fwya’ o archfarchnadoedd i fyny 3.8% yn gyffredinol yn ystod chwarter olaf 2017, wrth i bobol ddewis gwario ar fwyd a diod yn hytrach na nwyddau’r stryd fawr.

Fe lwyddodd Aldi a Lidl i ddenu bron i filiwn o deuluoedd ychwanegol yn ystod y cyfnod.