Mae cyn-olygydd y Guardian, Peter Preston wedi marw’n 79 oed.

Ymunodd â’r papur newydd yn 1963, ac roedd yn olygydd rhwng 1975 a 1995 cyn mynd yn golofnydd i’r papur hwn ac i’r Observer.

Fe fu’n dioddef o ganser y croen.

Teyrngedau

Dywedodd ei fab Ben fod ei dad wedi dangos “gwytnwch, dewrder, doethineb” yn ystod ei salwch.

Dywedodd Janice Turner, ei ferch-yng-nghyfraith sy’n golofnydd gyda’r Times ei fod yn “newyddiadurwr hyd y diwedd a’r dyn mwyaf bonheddig dw i erioed wedi ei adnabod”.

Cafodd ei ddisgrifio gan brif olygydd y Guardian a’r Observer, Katharine Viner fel “golygydd gwych”.

“Mae Peter wedi bod yn ffrind cefnogol garedig nad oedd yn ymwthiol, gan gynnig cyngor a mewnwelediad a’r math o falast allai ddod gan rywun oedd wedi bod ym mhob man ac wedi gweld popeth yn unig.”

Gyrfa

Graddiodd Peter Preston o Brifysgol Rhydychen, lle’r oedd yn olygydd ar bapur newydd Cherwell.

Fe wnaeth ei hyfforddiant gyda’r Liverpool Daily Post cyn symud i weithio i’r Manchester Guardian yn 1963.

Roedd yn ohebydd, yn ohebydd tramor, yn olygydd erthyglau nodwedd ac yn olygydd nos cyn cael ei benodi’n olygydd yn 1975, ac yntau ond yn 37 oed.

O dan olygyddiaeth Peter Preston y cafodd cylchgrawn G2 ei sefydlu, ac roedd yn gyfrifol am oruchwylio brand newydd o’r papur newydd.

Roedd e wrth y llyw yn y Guardian pan gafodd eu gwrthwynebydd, yr Independent ei lansio, oedd wedi arwain at frwydr prisiau rhwng y ddau bapur.

Cafodd ei golofn olaf ei chyhoeddi ar Nos Galan.

Roedd hefyd yn nofelydd.