Mae olismon 46 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Ne Swydd Efrog.
Fe gafodd teithwraig 61 oed mewn car arall hefyd ei lladd yn y digwyddiad.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar briffordd yr A57 yn Sheffield, a hynny am 8.15yh ddydd Nadolig. Roedd y plismon yn ymateb i alwad ynglyn â damwain arall, rhwng car BMW a Citroen C3.
Roedd y car heddlu’n teithio i gyfeiriad Coisley Hill, i’r de-ddwyrain o’r ddinas.
Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (yr IPCC) wedi cael gwybod am y gwrthdrawiad, ac mae wrthi’n ymchwilio i’r amgylchiadau.