Mae elusen yn Nottingham yn honni eu bod nhw wedi gosod y peiriant bwyd a diod cyntaf i bobol ddigartref ar drothwy’r Nadolig.
Mae Action Hunger wedi gosod y peiriant yng nghanolfan Broadmarsh, ac fe fydd modd i bobol ddigartref ddewis bwyd, diod, sanau, brwshys dannedd a nwyddau eraill.
Fe fydd cerdyn yn cael ei roi i bawb sydd angen mynediad i’r peiriant a thra bod yr elusen yn cydnabod na fydd y peiriant yn tynnu pobol oddi ar y strydoedd yn barhaol, maen nhw’n dweud y bydd yn cynnig cymorth iddyn nhw.
Mae cynlluniau ar y gweill i gyflwyno dros gant o beiriannau tebyg mewn nifer o ddinasoedd eraill, gan gynnwys Llundain a Manceinion.
Dywedodd llefarydd ar ran Action Hunger: “Mae hyn bellach yn golygu bod gan bobol ddigartref fynediad i fwyd 24 awr y dydd.
“Os oes chwant bwyd arnyn nhw neu os oes angen hosanau arnyn nhw neu os ydyn nhw’n teimlo’n oer, mae lle iddyn nhw fynd iddo.
“Fydd e ddim yn tynnu pobol i mewn oddi ar y strydoedd oherwydd mae ond yn rhoi bwyd neu nwyddau bychain dair gwaith y dydd, ond fe fydd yn eu helpu wrth iddyn nhw fynd trwy’r cyfnod hwn yn eu bywydau.
“Dyna pam ei fod wedi’i gyfyngu i dri o eitemau bob dydd, oherwydd mae hynny’n ateb eu hanghenion.”