Cafodd hyd at 11,000 o bobol gyffredin eu lladd yn ystod yr ymdrechion i yrru Daesh allan o ddinas Mosul yn Irac – ddeg gwaith y nifer a gafodd ei adrodd eisoes.
Daeth y ffigurau i’r amlwg yn dilyn ymchwiliad gan y Press Association, ond mae awdurdodau yn Irac, llywodraeth Irac a swyddogion Daesh yn gwrthod cydnabod y ffigyrau.
Roedd lluoedd Irac a’u cynghreiriaid yn gyfrifol am farwolaethau o leiaf 3,200 o bobol gyffredin rhwng mis Hydref y llynedd a mis Gorffennaf eleni, pan gafodd Daesh eu trechu.
Mae’r ffigurau wedi’u tynnu oddi ar restrau angladdol a’r llywodraeth, yn ogystal ag Amnest Rhyngwladol, Iraq Body Count a’r Cenhedloedd Unedig.
Mae’r cynghreiriad yn fodlon derbyn cyfrifoldeb am ddim ond 326 o farwolaethau, ond maen nhw’n cyfiawnhau’r marwolaethau gan ddweud mai gweithredoedd Daesh oedd wedi arwain at weithredu’n filwrol yn eu herbyn.
Mae lle i gredu bod cannoedd o gyrff yn dal wedi’u claddu o dan rwbel.