Mae Max Clifford wedi marw ar ôl cael trawiad ar y galon.

Roedd adroddiadau y bore ma bod yr arbenigwr ar gysylltiadau cyhoeddus, oedd yn 74 oed, mewn cyflwr difrifol ar ôl cael ei daro’n wael yn ei gell yn Swydd Gaergrawnt, lle’r oedd yn treulio wyth mlynedd dan glo am droseddau rhyw hanesyddol.

Cafodd ei garcharu yn 2014.

Yn ôl ei ferch, fe fu’n sâl ers dydd Iau ar ôl bod yn glanhau ei gell, ac fe fu farw yn yr ysbyty.

‘Dyletswydd’

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai fod “diogelwch a lles pobol yn y ddalfa yn brif flaenoriaeth gennym ac rydym yn cymryd ein dyletswydd i ofalu yn ddifrifol iawn”.

Ychwanegodd fod gan garcharorion fynediad i feddyg teulu a’r Gwasanaeth Iechyd.