Mae pennaeth newydd Cyngor Kensington a Chelsea wedi dweud na fydd hi’n mynd i wasanaeth coffa ar gyfer meirw Tŵr Grenfell yn dilyn cais gan y teuluoedd.

Mae’n chwe mis bellach ers i 71 o bobol gael eu lladd yn y tân mewn bloc o fflatiau.

Cafodd Elizabeth Campbell ei phenodi ar ôl hynny.

Fe fydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yng Nghadeirlan San Paul ddydd Iau, a’i ddarlledu gan y BBC.

Mae’r cyngor wedi’i gyhuddo o anwybyddu rhybuddion am ddiogelwch yr adeilad.

Ymddiswyddodd yr arweinydd diwethaf, Nicholas Paget-Brown ar ôl i’r cyngor gael ei feirniadu.

Fydd neb o’r cyngor yn bresennol yn y gwasanaeth, ond mae disgwyl i aelodau’r teulu brenhinol fod yno.