Bydd y Deyrnas Unedig yn talu setliad ariannol rhwng tua £35bn a £39bn [40-45 biliwn ewro] wrth iddi adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl ffynhonnell Brydeinig.

Daw maint y “bil ysgaru” ar ôl i lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, gyhoeddi y bydd yn argymell i arweinwyr y 27 o wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd gytuno ar symud y trafodaethau Brexit ymlaen at fasnach ddydd Iau nesaf.

Clodforodd Theresa May y cytundeb fel “cytundeb haeddiannol at ein buddiannau i gyd”, tra bod Jean-Claude Juncker yn dweud ei fod yn “gynnydd sylweddol.”

Mae Theresa May a’r Ysgrifennydd Brexit bellach wedi hedfan i Frwsel i gadarnhau geiriau dogfen sy’n amlinellu’r cynigion dros hawliau dinasyddion, y ffin Wyddelig a bil ysgaru Prydain.

 Arlene Foster yn lle Theresa May?

Er bod y gost yn llai na’r £50bn oedd yn cael ei grybwyll ar ddechrau’r mis, mae Neil Hamilton, arweinydd UKIP Cymru, wedi beirniadu Theresa May.

Dywedodd fod Arlene Foster, arweinydd y DUP, yn haeddu bod yn Brif Weinidog yn lle Theresa May, ar ôl “ildio” i Ewrop.

“Ar ôl 100 o gamau am nôl, rydym ni wedi cymryd un cam ymlaen – diolch i Arlene Foster a’r DUP. Dylai Arlene Foster fod yn Brif Weinidog.

“Rydym angen rhywun sydd ag asgwrn cefn fel Prif Weinidog, nid Arhoswr llwfr, fel Theresa May. Fe wnaeth hi ildio i’r Undeb Ewropeaidd ac addo £40bn iddyn nhw o’n harian ni.

“Mae bellach wedi addo y bydd ein rheolau “ochr yn ochr” â’r Undeb Ewropeaidd – gan aberthu ein rhyddid i dorri tâp coch, un o’r buddiannau mwyaf o adael.

“Dylen ni fod yn gynddeiriog am ganlyniad mor wan.”

Ffin neu ddiffyg ffin rhwng dwy ran Iwerddon oedd y broblem wnaeth chwalu cytundeb posib ddechrau’r wythnos pan wrthododd y blaid unolaethol y DUP, gytuno i’r hyn oedd ar y bwrdd.

Erbyn hyn, mae’r cytundeb yn dweud “na fydd rhwystrau rheoliadol” rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y Deyrnas Unedig.