Mae ymrwymiad y Deyrnas Unedig ac Ewrop i beidio sefydlu ffin galed rhwng Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon, yn “gadarn” yn ôl Taoiseach Gweriniaeth Iwerddon.

Gan gyfeirio at y ddogfen o gytundeb rhwng y ddwy ochr mae Leo Varadkar yn mynnu “nad oes modd ei chwalu”.

A gan ymateb i bryderon am newidiadau i eiriad y ddogfen, dywedodd mai “newidiadau o ran arddull yr iaith” a oedden nhw.

Mae Leo Varadkar hefyd wedi dweud wrth genedlaetholwyr yng Ngogledd Iwerddon y bydd eu hawliau’n cael eu hamddiffyn.

“Ni fydd ffin galed ar ein hynys ni,” meddai wrthyn nhw. “Gewch chi byth eich gadael ar ôl gan lywodraeth Wyddelig eto.”

Mae’r arweinydd Gwyddelig wedi gwrthod y posibiliad o gynnal refferendwm yn Iwerddon dros gydsynio â drafft olaf dêl Brexit.