Mae prif swyddog iechyd Lloegr wedi beirniadu taith lori Coca-Cola am ei bod yn hyrwyddo siwgr ymhlith plant ac yn cynyddu’r perygl o ordewdra a phydru dannedd.
Yn ôl Duncan Selbie, prif weithredwr Iechyd Cyhoeddus Lloegr, dylai awdurodau lleol sy’n croesawu’r lori i’w trefi a’u dinasoedd “ystyried a yw er lles iechyd plant a theuluoedd”.
Mae’r daith yn ei seithfed flwyddyn eleni, ac mae’n ymweld â 42 o drefi neu ddinasoedd rhwng Tachwedd 11 a Rhagfyr 17, gan gynnwys Abertawe a Chaerdydd.
Ond mae pryderon ei bod yn ymweld â nifer o ardaloedd lle mae lefelau gordewdra uchel a safonau hylendid dannedd yn isel.
“Dydi brandiau mawr yn teithio o amgylch y wlad adeg y Nadolig i hysbysebu eu cynnyrch â’r lefelau siwgr uchaf i blant, ac i gynyddu eu gwerthiant, ddim yn gwneud unrhyw beth i helpu teuluoedd i wneud dewisiadau iach nac ymdrechion ehangach i fynd i’r afael â gordewdra a dannedd plant yn pydru,” meddai Duncan Selbie.
Ystadegau
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Lloegr, mae lefelau gordewdra a phydru dannedd 61% o’r trefi ar y rhestr yn uwch na chyfartaledd gwledydd Prydain.
Mae pob can o Coca-Cola yn cynnwys tua saith llwy de o siwgr, yn ôl y cwmni diodydd.
Mae llefarwyr ar ran Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd ac Ymgyrch Bwyd Plant hefyd wedi beirniadu’r daith, gan annog Coca-Cola i “ymddwyn yn fwy cyfrifol”.
Serch hynny, mae Coke Zero ar gael ar y daith yn ogystal â Coca-Cola a Diet Coke.
Yn ôl Rhaglen Cenedlaethol Mesur Plant, roedd bron i chwarter o blant oedran dechrau yn yr ysgol a thraean o blant ym mlwyddyn 6 dros eu pwysau neu’n ordew yn 2016-17
Roedd 9.3% o blant oedran dosbarth derbyn ac 20% o blant oedran dechrau yn yr ysgol uwchradd yn ordew.
Ymateb Coca-Cola
Wrth ymateb i’r pryderon, dywedodd llefarydd ar ran cwmni Coca-Cola: “Mae taith lori Nadoligaidd Coca-Cola yn ddigwyddiad unwaith y flwyddyn lle’r ydym yn cynnig dewis i bobol o samplau 150ml o Coca-Cola traddodiadol, Coca-Cola Zero Sugar neu Diet Coke – felly mae dau draean o’r opsiynau’n ddiodydd heb siwgr.”
Dywedodd hefyd fod 70% o’r samplau sydd ar gael ar y daith heb siwgr, ac nad yw’r cwmni’n cynnig samplau i blant dan 12 oed heb fod rhiant neu warcheidwad yn bresennol ac yn rhoi caniatâd.
Ychwanegodd nad yw’r lori yn mynd i’r un ardaloedd dro ar ôl tro.