Mae’r cwmni rhyngrwyd YouTube wedi addo gweithredu’n galetach ar ôl iddi ddod yn amlwg eu bod yn methu ag atal pedoffiliaid rhag gosod sylwadau ffiaidd ar eu gwasanaeth.
Fe ddangosodd ymchwiliad tan bapur y Times a’r BBC fod miloedd o sylwadau budr yn cael eu rhoi ar fideos sy’n dangos plant – rhai yn fideos diniwed, eraill wedi’u gosod yno gan bedoffiliaid.
Mae’r papur yn dweud bod amryw o gwmnïau mawr rhyngwladol wedi dileu hysbysebion ar y gwasanaeth ar ôl clywed y gallai eu cynnwys fod ochr yn ochr â sylwadau gan bedoffiliaid.
Ac mae gwirfoddolwyr sy’n monitro’r rhyngrwyd yn awgrymu bod rhwng 50,000 a 100,000 o gyfrifon amheus ar y gwasanaeth o hyd.
‘Systemau cryf yn hanfodol’
Mae rhai o’r sylwadau’n dweud pethau ffiaidd am luniau o blant; mae eraill yn annog plant sy’n gosod fideos i wneud pethau rhywiol.
Fe ddywedodd yr Asiantaeth Trosedd Cenedlaethol ei bod yn “hanfodol” fod gan wasanaethau ar-lein systemau cryf i warchod plant sy’n eu defnyddio.