Mae’n annhebygol y bydd nifer y meirw o ganlyniad i dân tŵr Grenfell yn codi o 71 o bobol.
Dyna gasgliadau crwner wrth agor y cwestau olaf i farwolaethau dau ddioddefwr ym mis Mehefin eleni.
Mi ddarllenodd y crwner Fiona Wilcox enwau’r 70 o bobol gafodd eu lladd ac un baban marw-anedig wrth grynhoi’r cwestau yn Llys y Crwner San Steffan.
“Mae’r holl rai oedd ar y rhestr o bobol ar goll wedi’u canfod a’u hadnabod,” meddai. “Mae’n annhebygol iawn y bydd y ffigwr yn newid yn awr.”
Ers mis Mehefin mae 19 o wrandawiadau wedi’u cynnal gyda’r crwner yn rhybuddio fwy nag unwaith na allai fod yn bosibl i adnabod pob un o’r meirw.
“Rydym mewn sefyllfa wahanol iawn nawr i’r hyn yr oeddem yn ei ofni yn y dyddiau cyntaf wedi’r tân pan oedd amheuaeth y byddai nifer y meirw yn uwch ac na fyddai rhai pobol yn cael eu canfod,” meddai Fiona Wilcox gan ganmol gwaith arbenigwyr ar DNA.
Mae’r cwestau’n cael eu gohirio yn awr tan y bydd ymchwiliad yr heddlu a’r ymchwilid cyhoeddus yn cael eu cwblhau.