Mae dyn 31 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl i yrrwr tacsi gael ei drywanu ym Manceinion dros wythnos yn ôl.
Mae’n debyg i’r gyrrwr tacsi 42 oed gael ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol yn dilyn y digwyddiad ddydd Sadwrn, Tachwedd 11, ond mae bellach wedi’i rhyddhau o’r ysbyty.
Cafodd dyn, 31 oed, ei arestio yn Crewe brynhawn ddydd Mawrth ar amheuaeth o geisio llofruddio.
“Rydym wedi cynnal ymholiadau sylweddol ers yr ymosodiad ffiaidd yma ar yrrwr tacsi wrth iddo geisio wneud ei waith, ac mae yna arestiad bellach wedi’i wneud,” meddai Geoff Machent, Ditectif Arolygydd Heddlu Manceinion.