Mae’r Prif Weinidog Theresa May yn galw ar fwy o gwmnïau i gyhoeddi manylion o gyflogau’r dynion a’r merched sy’n gweithio iddyn nhw er mwyn amlygu unrhyw wahaniaethau.

Mae eisoes yn ofynnol i gwmnïau sy’n cyflogi dros 250 i gyhoeddi data tâl a bonws erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Bellach, mae Theresa May yn apelio ar i gwmnïau llai yn ogystal ddatgelu eu manylion.

Yn ôl ffigurau newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae’r bwlch mewn tâl rhwng dynion a merched wedi codi mymryn o 18.2% yn 2016 i 18.4% yn 2017. Ar y llaw arall, mae’r bwlch o safbwynt gweithwyr llawn amser yn is nag erioed ar 9.1%.

Lleihau

“Mae’n newyddion da fod y bwlch wedi lleihau eleni i weithwyr llawn-amser,” meddai Theresa May.

“Ond dyw’r bwlch tâl rhwng y rhywiau ddim am gau ar ei ben ei hun – rhaid i bawb ohonom weithredu i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â hyn.

“Dyna pam dw i’n galw ar fwy o fusnesau, yn fach a mawr, i weithredu i gael gwaraed ar y bwlch tâl, unwaith ac am byth.”

Mae ysgrifennydd cyffredinol y TUC, Frances O’Grady, wedi diystyru galwad y Prif Weinidog, gan ddweud na fydd yn cael fawr o effaith oni bai bod y llywodraeth yn gorfodi busnesau i weithredu.