Mae adroddiadau mewn mwy nag un papur newydd heddiw fod o leiaf bedwar Aelod Seneddol, gan gynnwys un o weinidogion y llywodraeth, wedi ymddwyn yn amhriodol tuag at ferched yn y Senedd.

Yn ôl yr honiadau:

  • Mae dau AS Llafur wedi bod yn anfon negeseuon testun rhywiol eu naws at wahanol ferched, gan gynnwys ymchwilydd ifanc ac un ar brofiad gwaith
  • Mae’r Gweinidog, sy’n briod, wedi bod yn aflonyddu newyddiadurwyr a gweithwyr cyflogedig
  • Mae AS Torïaidd priod wedi bod yn godinebu gydag o leiaf ddwy ymchwilydd ifanc dros y blynyddoedd diwethaf.

Fe ddaeth hyn i’r amlwg ar ôl i’r Prif Weinidog Theresa May ddweud bod honiadau o gamdriniaeth rhywiol yn y Senedd yn peri pryder mawr, gan rybuddio y bydd unrhyw weinidog sy’n cael ei ddal yn wynebu ‘camau difrifol’.

Mae arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, hefyd yn galw am gamau yn erbyn Aelodau Seneddol sy’n camymddwyn.

“Fydd Llafur ddim yn dioddef unrhyw ffurf o wahaniaethu nac aflonyddu,” meddai.

“Mae’r broblem yn ymwneud â diwylliant sydd wedi dioddef camdriniaeth yn llawer rhy hir – diwylliant gwyrdroedig a diraddiol sy’n ffynnu yng nghoridorau grym, gan gynnwys yn San Steffan.”