George Osborne, y Canghellor
Mae George Osborne wedi dweud fod gweinidogion ariannol yn “gwneud cynnydd” wrth benderfynu sut i ymateb i’r bygythiad o ddirwasgiad ariannol arall.

Fe fydd Canghellor yn cynnal cyfarfodydd gydag arweinwyr economïau gwledydd eraill y G7 yn Marseille heddiw.

Mae yna anghytundeb ynglŷn â sut i fynd i’r afael â’r argyfwng, â rhai yn dadleu ei fod yn bryd i lywodraethau fuddsoddi rhagor o arian er mwyn ceisio osgoi ail ddirwasgiad.

Ond dywedodd George Osborne fod “cefnogaeth gref” i’r syniad y dylai gwledydd sydd gyda diffygion ariannol mawr, gan gynnwys Prydain, dorri’n ôl.

“Beth sy’n bwysig nawr ydi fod agenda rhyngwladol er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng dyled a chefnogi twf,” meddai.

“Rydw i’n credu ein bod ni’n gwneud cynnydd da tuag at y nod hwnnw.”

Ychwanegodd y Prif Weinidog, David Cameron, fod gan Brydain “un o’r diffygion ariannol mwyaf yn y byd” a bod “rhaid mynd i’r afael â hynny”.

“Mae ein cyfraddau llog yr un mor isel â’r Almaen, ond mae ein diffyg ariannol yn fwy na Gwlad Groeg, a’r rheswm am hynny yw bod gennym ni gynllun i fynd i’r afael â’n dyled ac ni ddylen ni roi’r gorau iddo.”

Daw ei sylwadau wedi i bennaeth newydd y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Christine Lagarde, ddweud fod cynllun Prydain yn “briodol” ond fod “angen bod yn barod i newid” os oedd yr hinsawdd economaidd yn gwaethygu.