Senedd Gwlad Groeg
Mae gweinidog ariannol Gwlad Groeg wedi gwadu’n ffyrnig y bydd y wlad yn methdalu y penwythnos yma.
Mae ansicrwydd ynglŷn â gallu’r wlad i dalu ei dyledion wedi codi ofn ar y marchnadoedd ariannol unwaith eto’r wythnos hon.
Honnodd y Gweinidog Ariannol, Evangelos Venizelos, fod y sïon yn ymosodiad bwriadol ar yr ewro “ofnadwy o ddi-chwaeth”.
“Nid dyma’r tro cyntaf i ni weld sïon yn cael eu lledu’n fwriadol fod Gwlad Groeg ar fin methdalu,” meddai.
“Dewis Gwlad Groeg yw talu ei ddyledion ar ôl dod i gytundeb â’i phartneriaid.”
Mae’r wlad wedi ei chadw rhag methdalu gan werth €219 biliwn o fenthyciadau gan wledydd eraill.
Er gwaethaf dwy flynedd o doriadau llym, mae’r wlad dan ragor o bwysau ar ôl methu ei dargedau wrth dorri’r diffyg ariannol yn 2011.
Yn y cyfamser mae miloedd o heddlu ar strydoedd Athens gan ddisgwyl rhagor o brotestio dros doriadau llym.